Sut i Wneud Cais
Gwneud cais i'r Brifysgol
P’un ai a ydych chi’n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, meistr neu ddoethuriaeth, rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib. Rydym yn deall y gall meddwl am wneud cais i brifysgol fod yn gyffrous ac yn anodd. Ein nod yw sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch gyda chi er mwyn gwneud y penderfyniad hollbwysig hwnnw i wneud cais i brifysgol.
O gyngor ar wneud cais trwy UCAS, gwneud cais yn uniongyrchol neu drwy asiant, i gynnig awgrymiadau da ar ysgrifennu datganiad personol rhagorol neu gyngor ar gefnogi ymgeisydd, rydym yma i’ch helpu. Wrth i chi ymchwilio i’r adnoddau rydyn ni wedi’u casglu at ei gilydd, byddwch chi’n dod o hyd i gamau gweithredu, awgrymiadau o lygad y ffynnon, a phrofiad uniongyrchol myfyrwyr presennol sydd wedi dewis yr un llwybr.
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw negeseuon pwysig oddi wrth y Brifysgol, ac oddi wrth UCAS lle bo’n berthnasol.
Os oes gennych unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Yna gallwn weithio gyda chi i ystyried pa gymorth ac addasiadau y gallai fod angen eu rhoi ar waith i ganiatáu i’ch astudiaethau fod yn hygyrch ac er mwyn eich galluogi i gael y gorau o’ch profiad prifysgol.
Explore our Carmarthen Campus
Mae eich antur israddedig yn dechrau nawr. P'un ai a ydych chi'n chwilio am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais ar gyfer gradd baglor neu gyngor ar baratoi cais rhagorol, rydyn ni yma i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi ddilyn eich trywydd eich hun.
Sut i Wneud Cais Israddedig
Gan ddibynnu ar y rhaglen, gallwch wneud cais am le ar ein rhaglenni Ar-lein a Dysgu o Bell yn uniongyrchol i ni neu drwy UCAS - gwasanaeth derbyn y prifysgolion a’r colegau
Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).
Mae gennym rwydwaith o asiantau ar draws y byd yn barod i'ch helpu gyda'ch cais.
Mae'r Brifysgol wedi penodi cynrychiolwyr/asiantau lleol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth gyda cheisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.
Rydyn ni’n ymdrechu i roi arweiniad gwerthfawr i’n myfyrwyr pan fyddan nhw ar ddechrau eu taith academaidd.
Cysylltu â’r Tîm Derbyn
-
Ffôn: 0300 500 5054
E-bost: admissions@uwtsd.ac.uk
Campws Caerfyrddin
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Llawr 1af Adeilad Dewi
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Campws Llambed
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Adeilad Caergaint
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7ED
Campws Abertawe
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Technium 1
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH -
Ffôn: 0300 373 0651
E-bost: homerecruitmentwales@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 0121 229 3000
E-bost: birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 0207 566 7600
E-bost: londonadmissions@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 01792 482050
E-bost: international.registry@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 01267 676849
E-bost: RegistryPGR@uwtsd.ac.uk -
Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa.
Cofrestru
Rhaid i bob myfyriwr gofrestru cyn y gallant ymuno â’r Brifysgol yn swyddogol.
-
Cofrestru yw’r broses sy’n sicrhau eich bod yn:
- Cytuno bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol am flwyddyn academaidd gyfan neu ran ohoni
- Cytuno cadw at Statudau, Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol a thalu’r holl ffioedd perthnasol (megis ffioedd dysgu).
- Creu a/neu newid eich cofnod myfyriwr.
Os na chofrestrwch, ni fydd gennych yr hawl i:
- Dderbyn eich cerdyn adnabod myfyriwr
- Cael amserlen eich cwrs ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar eich rhaglen astudio
- Cymryd rhan mewn asesiadau
- Derbyn Tystysgrif Eithrio rhag y Dreth Gyngor (lle’n briodol)
- Derbyn eich cyllid myfyriwr (lle’n briodol)
- Byw mewn neuaddau preswyl (lle’n briodol)
- Cael mynediad i wasanaethau a gwybodaeth ychwanegol gan y Brifysgol
-
Dylai’r broses gofrestru barhau am tua 15 munud. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch: